Comisiwn y Cynulliad

 

Lleoliad:

Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel

 

Dyddiad:

Dydd Iau, 18 Gorffennaf 2013

 

Amser:

10:30 – 12:00

 

 

 

Cofnodion:  AC(4)2013(12)

 

 

 

Yn bresennol:

 

Rosemary Butler (Cadeirydd)

Peter Black

Angela Burns

Sandy Mewies

Rhodri Glyn Thomas

 

 

 

 

 

Swyddogion yn bresennol:

 

Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog)

Dave Tosh, Cyfarwyddwr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (Swyddog)

Nicola Callow, Pennaeth Cyllid (Swyddog)

Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog)

Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog)

 

 

 

 

 

 

Eraill yn bresennol:

 

David Melding, Y Dirprwy Lywydd

Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol

 

 

 

 

 

<AI1>

1    Cyflwyniad y Cadeirydd

 

</AI1>

<AI2>

1(i)        Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

 

Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn.

Cafodd Cynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad ei gymeradwyo gan y Cynulliad ar 17 Gorffennaf 2013. Diolchodd y Comisiynwyr i Rhodri Glyn Thomas a Non Gwilym am eu hymdrechion sylweddol i gyflawni'r canlyniad cadarnhaol hwn ar gyfer y maes pwysig hwn o weithgaredd y Cynulliad. 

 

 

</AI2>

<AI3>

1(ii)       Datganiadau o fuddiant

 

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

 

</AI3>

<AI4>

1(iii)      Cytuno ar gofnodion 27 Mehefin a 3 Gorffennaf  

 

Cytunwyd ar y cofnodion.

 

</AI4>

<AI5>

2    Cyllideb Ddrafft 2014-15

 

Bydd cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2014-15 yn cael ei gosod i’w hystyried gan y Cynulliad erbyn 1 Hydref fan bellaf. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai, cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r gyllideb fod yn seiliedig ar y swm £50.598 miliwn, a bennwyd yn y dogfennau cyllideb a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer y ddwy flynedd gynt ac y bu Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn craffu arnynt ym mis Hydref 2011 a 2012. 

2014-15 fydd blwyddyn olaf cynllun buddsoddi tair blynedd y Comisiwn ar gyfer y gyllideb. Roedd y Comisiynwyr yn falch gyda'r cynnydd a wnaed ar ddogfen y gyllideb ac yn hapus gyda'r cyflwyniad. Gwnaed rhai awgrymiadau am yr wybodaeth gyllideb fanwl yn Atodiad 1. Gofynnodd Mair Barnes am fwy o eglurder ynghylch lefel costau TGCh yn 2014-15 a thu hwnt. 

Roedd nodyn briffio wedi'i baratoi i hysbysu trafodaethau'r Comisiynwyr gyda grwpiau plaid.  Byddai Angela Burns a Nicola Callow ar gael i drafod y gyllideb gyda grwpiau ac Aelodau unigol.

Penderfynir ar y gyllideb derfynol yng nghyfarfod nesaf y Comisiwn ym mis Medi, cyn ei gosod.  Cytunodd y Comisiynwyr na fyddai'r papurau yn cael eu cyhoeddi.

Cam i’w gymryd: Swyddogion i baratoi’r gyllideb derfynol i adlewyrchu barn y Comisiynwyr yn unol â thrafodaethau i’w hystyried yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Medi.

 

 

</AI5>

<AI6>

3    Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol

 

Wrth iddo graffu ar gyllideb y Comisiwn ym mis Hydref 2012, argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylai'r Comisiwn gyhoeddi dangosyddion perfformiad blynyddol. Ysgrifennodd y Comisiwn at y Pwyllgor Cyllid i'w hysbysu am y dangosyddion arfaethedig ac esbonio y byddai'r broses ailadroddol honno yn datblygu dros amser.

Roedd y cyntaf o'r adroddiadau hynny, ar gyfer perfformiad rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2013, yn rhoi trosolwg o berfformiad mewn nifer o feysydd. Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o dargedau mesuradwy neu, lle nad oedd targed amlwg, defnyddiwyd cymaryddion. Defnyddiwyd statws Coch, Melyn a Gwyrdd i ddangos cyrhaeddiad perfformiad.

Cynigiodd y Comisiynwyr newidiadau mewn rhai meysydd a chytuno y dylid symleiddio'r ddogfen cyn ei chyhoeddi fel y gall darllenwyr weld trosolwg yn hawdd o berfformiad yn gyffredinol ac unrhyw feysydd sy'n peri pryder.  

Bydd yr adroddiad yn cael ei ddiwygio yn unol â sylwadau'r Comisiynwyr, ei anfon at y Pwyllgor Cyllid a'i gyhoeddi ar wefan y Cynulliad.  Cytunwyd, felly, na fyddai papur y cyfarfod yn cael ei gyhoeddi.

 

</AI6>

<AI7>

4    Adborth ar Arolwg Boddhad Aelodau'r Cynulliad

 

Cafodd yr ail arolwg Aelodau'r Cynulliad a’u staff cymorth ei gwblhau ym mis Mehefin 2013 ac yn dilyn hynny cafodd adroddiad yn nodi meysydd i'w gwella neu feysydd sydd angen camau gweithredu ar eu cyfer ei ddatblygu gan staff. 

Cytunodd y Comisiynwyr fod yr arolwg wedi bod yn ddull defnyddiol i gasglu adborth gan Aelodau a'u staff a bod hynny wedi bod yn rhan bwysig o asesu perfformiad.  Cytunwyd y byddai'r arolwg yn cael ei ddiwygio yn y dyfodol, gyda chwestiynau ar wahân i Aelodau a'u staff, sy'n cydnabod eu bod yn defnyddio gwasanaethau'r Comisiwn mewn ffyrdd gwahanol. Croesawodd Comisiynwyr y cynllun gweithredu a gofyn i gael crynodeb o ganlyniadau'r arolwg yn y dyfodol, yn hytrach na'r adroddiad llawn gyda'r holl ddata.

Cytunodd y Comisiynwyr na ddylid cyhoeddi'r papur.

 

</AI7>

<AI8>

5    Adroddiad ar Gynnydd a Pherfformiad TGCh

 

Cyflwynwyd yr adroddiad TGCh fel 'dangosfwrdd' i roi trosolwg o gynnydd a pherfformiad mewn nifer o feysydd pwysig o ran darparu gwasanaethau TGCh.

Roedd y meysydd o ddiddordeb arbennig yn cynnwys:

·         Strategaeth TGCh

·         Cynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau TGCh yn y dyfodol

·         Perfformiad gwasanaethau TGCh

Cytunwyd y byddai adroddiadau yn y dyfodol yn cael ei darparu yn yr un fformat. Cytunodd y Comisiynwyr na fyddai'r papur yn cael ei gyhoeddi.

 

 

</AI8>

<AI9>

6    Pwyllgor Archwilio - Adborth ar 13 Mehefin a 4 Gorffennaf

 

Nododd y Comisiynwyr gofnodion dau gyfarfod y Pwyllgor Archwilio.

 

 

</AI9>

<AI10>

7    Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio

 

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad 2012-13 i’r Comisiwn i’w nodi, yn unol â chylch gorchwyl y Pwyllgor.

Roedd yr adroddiad yn nodi bod lefelau sicrwydd cyffredinol y Comisiwn yn gadarn, ond bod lle i wella o hyd mewn rhai meysydd i sicrhau gwell effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio a rheoli rheolyddion. Bydd y meysydd hynny'n cael sylw penodol yn 2013-14.

Roedd gan y Comisiynwyr ddiddordeb penodol ym mharhad buses a rheoli cytundebau, ond nodwyd fod lefelau sicrwydd yn uchel.

Nododd y Comisiynwyr yr Adroddiad Blynyddol a'r ffaith bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi llofnodi Cyfrifon y Comisiwn yr wythnos honno.  

 

 

</AI10>

<AI11>

8    Unrhyw Fusnes Arall

 

Yr Ysgrifenyddiaeth

Gorffennaf 2013

 

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>